Mae gan Steve 44 mlynedd o brofiad yn y sector trafnidiaeth. Mae wedi treulio 7 o’r blynyddoedd hynny yn Wales & West Utilities fel Rheolwr Trafnidiaeth, yn rheoli fflyd o 1400 o gerbydau masnachol, sy’n cynnwys 60 HGVs, ynghyd â 300 o geir cwmni a 900 o eitemau o beiriannau symudol. Yn fwy diweddar ymunodd â’r Tîm Sero Net fel Arweinydd Trafnidiaeth a bydd yn goruchwylio datgarboneiddio fflyd WWU.
Roedd Steve yn rhan o’r tîm a gyflwynodd gerbydau casglu sbwriel LNG yn gyntaf yn y DU. Mae ei brofiad gweithredol gyda thanwydd nwyol yn ysgogi ei ddiddordeb yn rôl hydrogen fel tanwydd amgen carbon isel, a’i botensial i helpu WWU a thu hwnt i gyflawni uchelgeisiau sero net. Ei angerdd yw gwneud pethau'n well i'r sefydliad, y bobl sy'n gweithio ynddo, a'r amgylchedd.