Sukky Choongh
Rheolwr Amgylcheddol
SMMT
Graddiodd Sukky Choongh o Goleg y Brenin Llundain yn 2010 gydag MSc mewn Iechyd yr Amgylchedd. Ymunodd â SMMT ym mis Gorffennaf 2017 fel Rheolwr Amgylcheddol ar gyfer Ansawdd Aer a Cherbydau Allyriadau Isel Iawn. Gan weithio gyda chyrff llywodraeth a dinasoedd ar draws y DU, mae Sukky yn cefnogi eu huchelgeisiau ar gyfer cynyddu’r nifer sy’n defnyddio cerbydau allyriadau isel iawn a strategaethau gwella ansawdd aer.