Robin Beckmann yw Pennaeth Trafnidiaeth, yr Amgylchedd a Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru. Ar ôl gyrfa lwyddiannus yn y sector preifat, daeth Robin yn Gyfarwyddwr Rhanbarthol ELWA ar gyfer Canolbarth Cymru cyn i ELWA uno â Llywodraeth Cymru yn 2006. Mae wedi dal sawl swydd yn Llywodraeth Cymru gan gynnwys rolau Rhanbarthol a Dirprwy Gyfarwyddwr mewn Addysg lle bu’n gyfrifol am uno sawl coleg yng Ngogledd Cymru, ad-drefnu gwasanaethau addysg yn ne Cymru a chreu Prifysgol newydd.
Cyn hynny bu Robin yn arwain Rhaglen Niwclear Llywodraeth Cymru cyn symud i faes trafnidiaeth. Bu’n allweddol wrth sefydlu Trafnidiaeth Cymru, mae wedi arwain ar ddiwygio gwasanaethau bysiau yng Nghymru ac mae bellach yn arwain y tîm datgarboneiddio trafnidiaeth, gyda chyfrifoldeb am ddatblygu’r Cynllun Cyflawni Carbon Isel ar gyfer trafnidiaeth.