Skip to main content
Please wait...
Jonathan Murray
Jonathan Murray
Cyfarwyddwr Polisi a Gweithrediadau
Zemo Partnership

Fel Cyfarwyddwr Polisi a Gweithrediadau mae Jonathan yn gyfrifol am lunio amcanion polisi’r Bartneriaeth, ar y cyd ag adrannau ac aelodau’r llywodraeth a lledaenu allbynnau rhaglen waith y Bartneriaeth i lunwyr polisi. Mae gan Jonathan gyfrifoldeb uniongyrchol am gydlynu'r Tasglu Ynni Cerbydau Trydan, ei gyflwyniad a chydgysylltu â rhanddeiliaid y Tasglu.

Economegydd amgylcheddol yw Jonathan gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y diwydiannau modurol a thanwydd i gwmnïau gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, Cymdeithas Ymchwil y Diwydiant Moduro (MIRA) a Total Oil yn ogystal â gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU a’r CE yn ystod y ddau ddegawd diwethaf.

Yn 2003 dyfarnwyd iddo Wobr GREENFLEET am Gyflawniad Personol am helpu i roi hwb i’r farchnad ar gyfer cerbydau tanwydd glân yn y DU.

Contact info

.